1.        Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae awdurdodau’r tri gwasanaeth tân ac achub a’r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt. 

 

2.        Ein nod yw cynrychioli awdurdodau lleol yng nghyd-destun fframwaith polisi sy'n bodloni blaenoriaethau ein haelodau. Rhaid i'r fframwaith gyflwyno ystod eang o wasanaethau sy'n ychwanegu gwerth at lywodraeth leol yng Nghymru a'u cymunedau.

 

3.        Mae WLGA yn croesawu’r cyfle i roi sylwadau yn rhan o'r ymchwiliad gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch pa mor barod yw Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit.

4.        Isod ceir sylwadau am bob un o'r cwestiynau a restrir yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad.

Beth yw'r prif anawsterau y mae eich sector yn eu hwynebu o ganlyniad i Brexit, a sut ddylai Llywodraeth Cymru ymateb i'r rhain?

5.        Mae'r prif anawsterau i fyd llywodraeth leol yn ymwneud â phedair maes yn benodol – deddfau, polisïau, arian a'r effaith economaidd leol. Llywodraeth leol sy'n gweithredu llawer o'r deddfau sy'n deillio o gyfraith Undeb Ewrop (UE). Mae'r rhain ar waith yn rhan o fframwaith rheoliadol a pholisïau ar draws UE, ac mae'n cael arian o ystod o raglenni Ewropeaidd. Bydd newidiadau ym mhob un o'r meysydd hyn yn effeithio ar awdurdodau lleol yn uniongyrchol. Bydd hefyd yn effeithio ar wasanaethau llywodraeth leol yn anuniongyrchol wrth i Brexit effeithio ar amodau economaidd lleol.

 

6.        O dan Fesur Ymadael ag UE, bydd holl ddeddfau presennol UE yn cael eu copïo a'u cyflwyno'n rhan o gyfraith ddomestig y DG. Gall San Steffan fynd ati wedi hynny i "ddiwygio, diddymu a gwella" deddfau fel y bo angen. Fodd bynnag, ceir dau ffactor cysylltiedig sy'n cymhlethu'r sefyllfa. Yn gyntaf, ni fydd rhannau helaeth o'r ddeddfwriaeth yn berthnasol mwyach gan eu bod yn cyfeirio at sefydliadau a threfniadau UE (e.e. ar hyn o bryd mae'n rhaid hysbysebu tendrau yng Nghyfnodolyn Swyddogol Undeb Ewrop). Yn ail, ceir cynigion yn y Mesur i alluogi Gweinidogion y DG i ddiwygio deddfwriaeth heb i'r Senedd graffu arnyn nhw'n llawn (pwerau Harri VIII). Mae hyn yn ddadleuol ynddo'i hun ond mae hyd yn oed yn waeth o safbwynt Cymru gan fod rhannau helaeth o'r ddeddfwriaeth yma mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Mae hyn wedi arwain at gyhuddiadau gan y cenhedloedd datganoledig mai ailennill pwerau yw nod San Steffan.

 

7.        Dyma rai o'r ddeddfwriaeth a'r fframweithiau polisïau pwysig sydd ar waith ar lefel UE ar hyn o bryd y bydd angen cael fframweithiau cyfatebol yn eu lle ar lefel y DG a/neu Gymru:

 

·         Polisi Cystadleuaeth a Chymorth Gwladol

·         Polisïau Cyflogaeth a Materion y Gweithlu

·         Gwasanaethau rheoliadol

·         Caffael

·         Yr Amgylchedd, Gwastraff, Trafnidiaeth a Chynllunio

·         Amaethyddiaeth a Datblygu Cefn Gwlad

·         Datblygu’r Economi Ranbarthol.

 

8.        Mae'n hanfodol bod gan awdurdodau rôl ac yn dylanwadu ar unrhyw newid mewn deddfwriaeth os gwneir newidiadau a allai effeithio ar wasanaethau awdurdodau lleol. Nid Llywodraeth Cymru yn unig ddylai fod â rôl mewn prosesau o'r fath. Bydd hyn yn golygu gweithio gyda San Steffan neu Lywodraeth Cymru gan ddibynnu ar sut bydd materion cyfansoddiadol ynghylch unrhyw ddiwygiadau i ddeddfwriaeth/fframweithiau o'r fath yn cael eu datrys.  Mae WLGA yn cydweithio'n agos â'r LGA ac NILGA i wneud yn siŵr bod barn byd llywodraeth leol yn cael ei hystyried ar lefel y DG. O ran deddfwriaeth ac unrhyw fframweithiau cysylltiedig sy'n ymwneud â meysydd sydd wedi'u datganoli, mae WLGA am wneud yn siŵr y caiff barn llywodraeth leol yng Nghymru ei hystyried. Mae hyn yn hanfodol gan mai'r awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am gyflwyno a gweithredu'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth. Felly, rydym am weld holl adrannau polisïau perthnasol Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â byd llywodraeth leol wrth iddyn nhw greu trefniadau deddfwriaethol newydd ar draws y meysydd a restrir uchod o ganlyniad i Brexit.

 

9.        O ran y trefniadau ariannu, mae dwy elfen sy'n peri pryder: colli arian grant neu gael lai ohono, a thoriadau pellach i'r arian a roddir i'r sector cyhoeddus. Mae Trysorlys y DG wedi gwarantu arian grant ar gyfer prosiectau hyd at 2020. Fodd bynnag, nid yw'n glir beth fydd yn digwydd wedi hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar San Steffan i anrhydeddu'r addewidion a wnaed cyn y refferendwm na fyddai Cymru yn cael ceiniog yn llai o ganlyniad i adael UE. Mae rhai wedi dadlau (i) na ddylai Cymru gael ceiniog yn llai na'r hyn y byddai wedi'i gael pe byddai'r DG wedi aros; ac (ii) yn yr un modd ag arian UE, dylai hyn fod ar ben y Grant Bloc a gaiff Cymru o dan fformiwla Barnett, gan gydnabod bod angen rhagor o arian. Mae WLGA wedi cefnogi dadl Llywodraeth Cymru y dylai unrhyw arian a roddir sy'n disodli arian UE gael ei ddatganoli a'i reoli yng Nghymru. Mae San Steffan wedi cynnig 'Cronfa Rhannu Ffyniant' ar gyfer y DG yn gyffredinol, ond nid yw'r manylion ynghylch sut bydd hyn yn gweithio yn glir ar hyn o bryd.

 

10.     Mae'r pryder ehangach ynghylch arian cyhoeddus yn ymwneud â'r posibilrwydd y gallai Brexit gael effaith negyddol ar economi'r DG ac arwain at dderbyn llai o dreth a thalu mwy o fudd-daliadau. Yn dilyn blynyddoedd lawer o doriadau, byddai cwtogi ar Grant Bloc Cymru ymhellach yn golygu y byddai byd llywodraeth leol yn wynebu toriadau pellach.

 

11.     O ran yr effaith ehangach ar yr economi leol, fe gynhaliodd WLGA arolwg o awdurdodau lleol i gael eu barn. Mynegwyd pryderon yn benodol ynghylch amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu a'r gwasanaethau hynny sy'n cyflogi llawer o fewnfudwyr (e.e. twristiaeth, lletygarwch, sector gofal, adeiladu). Roedd nifer o awdurdodau yn bryderus ynghylch y posibilrwydd o golli swyddi lleol o ganlyniad i fusnesau'n cau neu'n symud fel bod y Farchnad Sengl ar gael ar eu cyfer. Byddai unrhyw fusnesau sy'n cau yn effeithio ar gwmnïau lleol eraill sy'n cynnig gwasanaethau ac yn cyflenwi. Mae unrhyw ddirywiad cyffredinol yn yr economi leol yn tueddu i gynyddu'r pwysau ar awdurdodau lleol mewn meysydd fel tai/digartrefedd, camddefnyddio sylweddau, trais yn y cartref, diogelwch cymunedol, ac ati. Byddai cyfuniad o lai o arian a galw cynyddol am wasanaethau yn ei gwneud yn fwyfwy anodd i awdurdodau lleol gynnal gwasanaethau nad ydyn nhw'n orfodol.

 

12.     Mae'n anodd dweud sut ddylai Llywodraeth Cymru ymateb i'r problemau yma gan nad oes ganddyn nhw reolaeth uniongyrchol dros lawer ohonyn nhw. Heb os nac oni bai, bydd cynnwys awdurdodau lleol mewn trafodaethau am bolisïau a deddfwriaeth yn hollbwysig (mae rhagor o sylwadau am hyn i'w gweld isod) - ond nid oes unrhyw sicrwydd y bydd modd dylanwadu ar safbwynt San Steffan mewn sawl maes. Yn yr un modd, byddai byd llywodraeth leol yn awyddus i ddylanwadu ar unrhyw benderfyniadau ynghylch arian a fyddai'n disodli arian UE, a byddai'n dadlau dros ddatganoli pellach o lefel Llywodraeth Cymru i'r rhanbarthau. Fodd bynnag, efallai na fydd modd gwneud hyn os bydd Cronfa arian newydd yn cael ei sefydlu a'i weithredu ledled y DG.  Felly, mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn defnyddio holl gysylltiadau uniongyrchol ei phartneriaid pwysig â chyrff eraill ledled y DG gan fod hyn yn galluogi llawer o bartneriaid i ddylanwadu ar adrannau pwysig San Steffan yn uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys byd llywodraeth leol yng Nghymru, addysg bellach ac uwch, cyrff amgylcheddol a sefydliadau preifat a'r trydydd sector yng Nghymru fel CBI, FSB a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Argymhellwn yn gryf y dylai Llywodraeth Cymru fanteisio'n llawn ar yr arbenigedd sydd ar gael ar draws y sefydliadau hyn yng Nghymru yn ei holl baratoadau ar gyfer Brexit. Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod cysylltiadau uniongyrchol yr holl brif bartneriaid ym Mrwsel hefyd a manteisio arnyn nhw. I fyd llywodraeth leol, mae'r ffaith fod gennym rôl ym Mhwyllgor Rhanbarthau UE ac wrth lobïo sefydliadau o bwys fel CEMR yn rhoi cyfleoedd i ni ddylanwadu ar ddatblygiadau yn uniongyrchol.

 

13.     O ran yr economi, byddai cydweithio agosach rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar lefel ranbarthol yn helpu i wneud yn siŵr bod busnesau lleol yn cael cymorth ar y cyd. Fodd bynnag, bydd rhai o'r ffactorau fydd yn dylanwadu ar benderfyniadau cwmnïau mawr yn digwydd ar lefel ryngwladol ac mewn pencadlysoedd. Felly, ni waeth pa mor gydlynol y bydd pethau yng Nghymru, bydd ceisio cael dylanwad yn dalcen caled.

14.     Bydd natur y modd y byddwn yn ymadael (caled neu feddal) yn dylanwadu ar beth fydd yn digwydd. Er enghraifft, bydd y graddau y bydd y DG yn gorfod parhau i gydymffurfio â safonau a rheoliadau UE yn dibynnu ar unrhyw fargen masnach a gawn gydag UE yn y pen draw. Bydd angen dod o hyd i ffyrdd o ddylanwadu ar safonau/rheoliadau wrth iddyn nhw ddatblygu yn y dyfodol. Yn ystod unrhyw gyfnod pontio ac yn y dyfodol a allai gynnwys gweithio drwy gyfrwng Pwyllgor Rhanbarthau Undeb Ewrop, gall gweithio gyda chydweithwyr ym myd llywodraeth leol ar y cyfandir fod yn hollbwysig drwy gysylltiadau ar gyrff eraill fel CEMR (Cyngor Bwrdeistrefi a Rhanbarthau Ewrop).

15.     Ar lefel weithredol hefyd, gallai unrhyw benderfyniadau ynghylch Brexit sy'n effeithio ar rwydd hynt gweithwyr i symud effeithio ar awdurdodau lleol naill ai'n uniongyrchol neu drwy drefniadau â sefydliadau allanol.  Credir mai nifer cymharol isel o bobl o UE a gyflogir yn uniongyrchol. Fodd bynnag, gall hyn fod yn fwy o broblem mewn rhai ardaloedd, lleoliadau a lle mae ystyriaethau sefydliadau allanol yn berthnasol. Mae angen rhagor o ymchwil i geisio deall maint unrhyw broblem.

Pa gyngor, cefnogaeth neu gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i chi hyd yma wrth baratoi ar gyfer Brexit?

16.     Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys sector llywodraeth leol mewn sawl ffordd wrth baratoi ar gyfer Brexit. Dyma rai o'r ffyrdd mwyaf arwyddocaol:

·         Rôl WLGA yng Nghylch Cynghori UE a sefydlwyd gan Brif Weinidog Cymru a'i gadeirio gan Mark Drakeford (y Cyng. Rob Stewart yw Llefarydd WLGA a'n cynrychiolydd yn y cylch)

·         Cyhoeddi cyfres o bapurau sy'n cyflwyno safbwynt Llywodraeth Cymru – ar faterion datganoli, rhwydd hynt pobl i symud o le i le, a'r Papur Gwyn a datblygu ar y cyd â Phlaid Cymru, sy'n amlinellu'r prif anawsterau i Gymru wrth i'r DG ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

·         Trafodaeth a chyfres o weithgorau sy'n edrych ar effeithiau tebygol Brexit yn sector yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac ystyried beth fydd y sefyllfa yn dilyn gwahanol ffyrdd o ymadael.

·         Nifer o drafodaethau ffurfiol ac anffurfiol gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, WLGA a'r Timau Ymgysylltu Rhanbarthol er mwyn manteisio'n llawn ar bob cyfle o dan Raglenni Cronfa Strwythurol presennol UE, ac er mwyn ystyried pwyslais trefniadau a buddsoddiadau rhanbarthol yn y dyfodol.

17.     Mae'r Cylch Cynghori wedi bod o ddefnydd o ran cael gwybod sut mae trafodaethau rhwng llywodraeth Cymru a'r DG yn datblygu. Mae WLGA wedi cael y cyfle i gyflwyno canfyddiadau ei harolwg o awdurdodau lleol i'r cylch. Mae hyn yn dangos parodrwydd ar ran Llywodraeth Cymru i alluogi aelodau'r cylch i gyflwyno syniadau a safbwyntiau yn rhan o broses ddwy-ffordd. Y math yma o ryngweithio ddylai lywio trafodaethau Llywodraeth Cymru gyda San Steffan. Fodd bynnag, nid oes modd gwybod i ba raddau mae'r safbwyntiau a gyflwynir yn dylanwadu ar Lywodraeth Cymru, na faint mae Llywodraeth Cymru yn gallu dylanwadu ar safbwynt San Steffan mewn trafodaethau gydag UE.

18.     Yn ogystal, mae'r Cylch Cynghori wedi cymryd rhan mewn trafodaethau sydd wedi cyfrannu at y cyhoeddiadau y cyfeiriwyd atyn nhw ym mharagraff 15 uchod.  Fodd bynnag, ni fu unrhyw ymgynghoriad/cyfle penodol i roi sylwadau am fersiynau drafft y dogfennau – maen nhw wedi'u cyflwyno i aelodau'r cylch ychydig cyn eu cyhoeddi. Dylid rhannu drafft y cyhoeddiadau gydag aelodau ymhell cyn eu cyhoeddi er mwyn i aelodau gael y cyfle i wneud sylwadau.

19.     O dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths, rydyn ni wedi cael ein cynnwys yn llawn mewn trafodaethau yn sector yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae wedi rhoi cyfle i ddod â buddiannau amrywiol ar draws y sector ynghyd er mwyn rhannu gwybodaeth, trafod bygythiadau a chyfleoedd, yn ogystal ag ystyried camau posibl y gellir eu cymryd wrth baratoi ar gyfer Brexit. Byddai'n braf gweld yr un lefel o ymgysylltu mewn sectorau eraill - e.e. ynghylch yr economi, trafnidiaeth, sgiliau.

 

Pa ystyriaethau ariannol sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i Brexit a beth ddylai gael ei wneud i baratoi ar eu cyfer?

20.     Fel yr amlinellwyd uchod, mae dwy gyfres o ystyriaethau ariannol: mae'r cyntaf yn ymwneud â grantiau ac mae'r ail yn ymwneud â phwysau ychwanegol posibl ar setliadau'r sector cyhoeddus mewn cysylltiad â pherfformiad economi'r DG.

21.     O ran y grantiau mae WLGA wedi croesawu cynnig San Steffan i neilltuo arian ar gyfer datblygiad rhanbarthol ar ôl i'r DG ymadael ag UE. Fodd bynnag, nid yw WLGA o blaid y syniad o gael Cronfa Rhannu Ffyniant a gaiff ei gweinyddu ar lefel y DG. Mae o'r farn y dylai cyfran Cymru gael ei dyrannu i Lywodraeth Cymru yn y lle cyntaf. Dylai cyfran Cymru adlewyrchu'r un ganran â'r hyn mae'n ei chael ar draws y DG ar hyn o bryd, ac ni ddylai gael ei haddasu i gyd-fynd â Fformiwla Barnett. Dylai'r un peth ddigwydd gyda thaliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin y mae Cymru'n eu derbyn.

22.     Mewn cyd-destun cenedlaethol a bennir gan Lywodraeth Cymru, mae WLGA hefyd wedi dadlau y dylai penderfyniadau ac arian gael eu datganoli i'r lefel fwyaf priodol. Yn benodol, drwy gryfhau'r pedair partneriaeth ranbarthol sydd eisoes wedi'u creu: Prifddinas-Ranbarth Caerdydd; Dinas-Ranbarth Bae Abertawe; Tyfu Canolbarth Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd y Gogledd Ar ôl cytuno ar gynlluniau datblygu rhanbarthol gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, dylai arian gael ei ddyrannu er mwyn eu rhoi ar waith. Drwy wneud hyn, ni fyddai angen 'rhaglenni' (ar lefel y DG neu Gymru). Mae'n cymryd cryn amser i ddatblygu'r rhain yn ogystal â phroses lafurus a gwastraffus o gyflwyno ceisiadau wrth i ymgeiswyr geisio addasu prosiectau i fodloni meini prawf y rhaglen.

23.     Yn ogystal â Chronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewrop, mae rhaglenni ariannu eraill i'w hystyried. Mae rhaglenni fel ERASMUS (+), HORIZON a LIFE wedi helpu datblygiad cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ledled Cymru. Bydd gallu parhau i gymryd rhan yn y rhaglenni ariannu hyn - yn ogystal â rhwydweithiau cydweithio rhyng-ranbarthol yn UE - yn bwysig i awdurdodau lleol. Mae rhaglenni hyn wedi rhoi manteision i ardaloedd lleol sy'n cyfrannu at amcanion cynllun lles cyffredinol awdurdodau lleol a'u partneriaid. Mae cael mynediad at Fanc Buddsoddi Ewrop yn y dyfodol yn faes i'w ystyried hefyd gan ei fod wedi cynnig buddsoddiad mewn prosiectau cyfalaf o bwys a gefnogir gan awdurdodau lleol.

24.     O ran y sefyllfa ariannol ehangach, mae'r pwysau sydd ar awdurdodau lleol yn hysbys i bawb. Bydd unrhyw gwtogi pellach dros y blynyddoedd nesaf yn amharu'n sylweddol ar eu gallu i atal y math o broblemau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y mae rhaglenni UE wedi'u ceisio eu hatal yn draddodiadol. Yn yr ystyr hwnnw, ac yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae atal yn well na gwella. Byddai hyn yn awgrymu bod angen rhywfaint o hyblygrwydd i allu defnyddio arian rhanbarthol i gefnogi darpariaeth prif ffrwd os nad yw'n cynnig gwasanaeth digonol. Er enghraifft, mae cynnal rhwydwaith y priffyrdd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant busnesau lleol. Gellid dadlau y byddai'n well galluogi gwariant ar wella priffyrdd yn hytrach na chynnig cymorth ariannol i fusnesau oherwydd mae'n bosibl mai'r costau ychwanegol a'r busnesau a gollir oherwydd tagfeydd ac oedi ar y priffyrdd yw'r union reswm pam mae'r busnesau mewn trafferthion.

25.     Fodd bynnag, nid yw'n glir eto faint o hyblygrwydd fydd ar gael i greu cyfundrefn gyllido i ddiwallu anghenion Cymru, neu a fydd San Steffan yn pennu unrhyw drefniadau / rhaglenni i ddisodli'r drefn flaenorol.

Pa gyngor neu gymorth hoffech chi ei gael gan Lywodraeth Cymru a fyddai'n eich helpu chi a'ch sector i baratoi ar gyfer Brexit?

 

26.     Rydyn ni wedi ateb y cwestiwn yma yn yr adrannau uchod i raddau helaeth. Yn y bôn:

·         cyfathrebu da rhwng y naill ochr, gofalu bod llywodraeth leol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, yn ogystal â gallu rhoi ei barn ynghylch meysydd polisïau, deddfwriaeth ac arian mewn da bryd

·         gallu rhoi sylwadau am gyhoeddiadau drafft, gan gynnig safbwynt byd llywodraeth leol, cyn eu cyhoeddi

·         cael trefniadau tebyg i'r rhai ar gyfer yr Amgylchedd a Materion Gwledig mewn meysydd pwysig eraill fel yr economi, sgiliau a thrafnidiaeth

·         gallu helpu i lywio cynigion ar gyfer polisïau a dulliau ariannu rhanbarthol newydd, lleihau biwrocratiaeth a gofalu bod cymaint o hyblygrwydd â phosibl

·         datganoli pwerau i wneud penderfyniadau ynghylch ariannu'r pedair rhanbarth, a gofalu eu bod yn cyd-fynd â chynlluniau datblygu rhanbarthol y cytunir arnyn nhw gyda Llywodraeth Cymru

·         cydweithio rhwng awdurdodau lleol ar lefel ranbarthol i roi cymorth economaidd ar y cyd ar gyfer yr economi leol.